Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Medi 2023
Amser:
09.45
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Marc Wyn Jones
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddHinsawdd@senedd.cymru
------
Rhag-gyfarfod preifat (09.15-09.45)
Briffio gan Gynghorydd Arbenigol
Cyfarfod cyhoeddus (09.45-11.55)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(09.45)
2 Bil Seilwaith (Cymru) - sesiwn dystiolaeth gydag academyddion
(09.45-10.45) (Tudalennau 1 - 61)
Hannah Hickman – Athro Cyswllt Ymarfer Cynllunio, Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste
Kelvin MacDonald – Uwch Gydymaith Addysgu, Prifysgol Caergrawnt
Dogfennau atodol:
Y Bil Seilwaith - crynodeb o'r Bil (Saesneg yn unig)
Bil Seilwaith (Cymru) - crynodeb o'r dystiolaeth ysgrifenedig
Bil Seilwaith (Cymru) - cwestiynau posibl
Papur - Hannah Hickman (Saesneg yn unig)
Papur - Kelvin MacDonald (Saesneg yn unig)
Egwyl (10.45-10.55)
3 Bil Seilwaith (Cymru) - sesiwn dystiolaeth gydag awdurdodau cynllunio lleol
(10.55-11.55) (Tudalennau 62 - 70)
Sara Morris – Cyfarwyddwr Creu Lleoedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Steve Ball – Pennaeth Cynllunio, Cyngor Caerdydd
Peter Morris – Arweinydd Proffesiynol, Cynllunio, Cyngor Sir Powys
Dogfennau atodol:
Papur - Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (Saesneg yn
unig)
Papur - Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn
unig)
4 Papurau i'w nodi (11.55)
4.1 Bil Seilwaith (Cymru) – Datganiad o Fwriad Polisi
(Tudalennau 71 - 165)
Dogfennau atodol:
Bil Seilwaith (Cymru) – Datganiad o Fwriad Polisi (Saesneg yn unig)
4.2 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) – ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad drafft Cyfnod 1 y Pwyllgor
(Tudalennau 166 - 185)
Dogfennau atodol:
Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor ar Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
4.3 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - dadl ar yr egwyddorion cyffredinol
(Tudalen 186)
Dogfennau atodol:
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, mewn perthynas â’r ddadl ar egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
4.4 Israddio Dŵr Cymru
(Tudalennau 187 - 200)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Cadeirydd at Dŵr Cymru mewn perthynas ag
israddio Dŵr Cymru
Llythyr gan Jane Dodds AS at y Cadeirydd mewn perthynas ag israddio
Dŵr Cymru (Saesneg yn unig)
Ymateb gan Dŵr Cymru mewn perthynas â’r llythyr
gan y Cadeirydd
4.5 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ynni
(Tudalennau 201 - 210)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Bil Ynni Llywodraeth y DU
Ymateb gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i’r Cadeirydd mewn
perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil
Ynni
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn
perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil
Ynni
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad at sylw Mr Andrew Bowie AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol
Seneddol Diogelwch Ynni a Sero Net mewn perthynas â
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ynni (Saesneg yn
unig)
4.6 Datgarboneiddio tai: datgarboneiddio'r sector tai preifat
(Tudalennau 211 - 220)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn
perthynas â datgarboneiddio tai: datgarboneiddio’r
sector tai preifat
Ymateb gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Cadeirydd mewn perthynas
â datgarboneiddio tai: datgarboneiddio’r sector tai
preifat
4.7 Cymru Sero Net Cyllideb Garbon 2 - ymgynghoriad ar y Strategaeth Gwres i Gymru gan Lywodraeth Cymru
(Tudalen 221)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Cadeirydd mewn perthynas ag ymgynghoriad y Strategaeth Gwres i Gymru gan Lywodraeth Cymru.
4.8 Gwefru cerbydau trydan
(Tudalen 222)
Dogfennau atodol:
Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd at y Cadeirydd mewn perthynas â seilwaith gwefru cerbydau trydan
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw
(11.55)
Cyfarfod preifat (11.55-12.30)
6 Bil Seilwaith (Cymru) – Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3
7 Mesurau Llywodraethu Amgylcheddol Interim yng Nghymru - trafod adroddiad drafft y Pwyllgor
(Tudalennau 223 - 236)
Dogfennau atodol:
Adroddiad drafft - Adroddiad ar weithrediad mesurau diogelu'r amgylchedd interim 2022-23 (Saesneg yn unig)